← Pob newyddion

Newyddion· Gan Sue Lewis

Dathliad arbennig

Cynhaliwyd dathliad arbennig yn Neuadd y Pentref ar Awst 9 – blwyddyn yn union wedi agoriad swyddogol y neuadd.

Daeth teulu, ffrindiau a chymdogion ynghyd ar gyfer achlysur dadorchuddio llun y diweddar Mary Bott MBE a rhoddwyd i'r neuadd gan y teulu er cof amdani. Gosodwyd y llun mewn lle amlwg yn yr ystafell Cwrdd a Chyfarch.

Roedd Mary yn gyn-gynghorydd y gymuned, yn ymddiriedolwr neuadd y pentref ac wedi codi milloedd ar filoedd o bunnau ar gyfer nifer o achosion da lleol.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Cymuned Aberporth, Sue Lewis: “Os oedd unrhyw beth yn digwydd yn y gymuned, roedd Mary yn ei chanol hi – mudiadau a gweithgareddau lleol, gwisgo i fyny yn y carnifal blynyddol, actio ar y llwyfan, gwerthu tocynnau raffl yn gyson, siarad yn gyhoeddus yn aml– roedd hi'n gysylltiedig â phob digwyddiad.

Roedd ganddi hiwmor a phob tro yn llawn hwyl. Roedd ganddi'r gallu i ddechrau parti mewn ystafell wag.

Mae hi wedi gadael bwlch enfawr yn ein pentref a mawr yw ei cholled.

Merched Mary, Jane a Anne a welir gyda'r llun a ddadorchuddiwyd.

Gallwch ddarllen am fywyd Mary yma:

darllenwch yma

Mwy o'r neuadd

Newyddion

Gwersi coginio am ddim!

Eisiau coginio pryd o fwyd iach a blasus i’r teulu? Mae’r cogydd proffesiynol Mandy Wilcox, Deli Delights Kitchen Academy, yn cynnal…

Newyddion

Y Fenyw ar y Bryn

Drama newydd bwerus yn dod i Neuadd Bentref Aber-porth nos Wener, 23 Hydref am 7yh. Mae The Woman on the Hill / Y Fenyw ar y Bryn yn…

Newyddion

Ymgyrch i wella’r man chwarae

Mae ymgyrch wedi’i lansio i drawsnewid man chwarae heneiddiol Aber-porth yn lle cynhwysol a hygyrch i bawb. Mae Neuadd Bentref Aber-porth…