Gwersi coginio am ddim!

Eisiau coginio pryd o fwyd iach a blasus i’r teulu? Mae’r cogydd proffesiynol Mandy Wilcox, Deli Delights Kitchen Academy, yn cynnal gweithdai am ddim yn Neuadd Bentref Aber-porth.
Darperir yr holl gynhwysion a gallwch fynd â’ch pryd adre. Dyddiadau’r gweithdai: Medi 23 (Mercher), Medi 28 (Llun), Hydref 8 (Iau) a Hydref 22 (Iau), 11:00–14:00. 6 person ym mhob sesiwn.
I sicrhau lle, cysylltwch â Mandy ar WhatsApp: 07825 598507. Bwyd Da, Sgiliau Newydd, Dyfodol Disglair.


